Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (133)v5 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
Cwestiynau Brys Cwestiwn Brys 1 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa eglurhad sydd gan y Gweinidog dros y dirywiad yn safonau addysg ym Mlaenau Gwent ers penodi comisiynwyr ddwy flynedd yn ôl?
Cwestiwn Brys
2
|
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Diwygiad Lles (45 munud) |
4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Law yn Llaw at Iechyd - diweddariad chwe mis (45 munud) |
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle (30 munud) |
6. Dadl: Hyrwyddo Twf Gwyrdd drwy Effeithlonrwydd Adnodd (60 munud)
NDM5243 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
cydnabod gwerth hybu twf gwrdd fel un o’r prif sbardunau
i’n gweledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru. Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig: Yn cydnabod y potensial enfawr ar gyfer twf gwyrdd yng Nghymru. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig: Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatblygu’r economi werdd. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig: Yn nodi amcangyfrif y Gymdeithas Ynni Adnewyddadwy, sef y gallai tua 400,000 o swyddi ledled y DU gael eu cefnogi gan y diwydiant ynni adnewyddadwy erbyn 2020, sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd busnes gwyrdd ar gyfer twf economaidd. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod pwysigrwydd mentrau gwyrdd wrth gefnogi’r gwaith o adfywio cymunedau a manteision eang cynlluniau cymunedol gwyrdd. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn annog Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth drosfwaol glir ar gyfer twf gwyrdd sy’n cael ei chefnogi gan dargedau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ynghyd â chanllawiau clir i ddatrys gwrthdaro rhwng blaenoriaethau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol. Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi rhaglen gyda chanlyniadau y gellir eu mesur i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru. Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Coleg Adeiladu Sgiliau Gwyrdd i wneud Cymru yn ganolfan ragoriaeth. Gwelliant 8 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ‘trywydd’ a chynllun gweithredu, gyda thargedau cynhyrchu, ar gyfer pob math o ynni adnewyddadwy. Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu Banc Buddsoddi Gwyrdd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu’r cymorth y gall ei gynnig i fusnesau Cymru er mwyn iddynt fanteisio ar y cyfleoedd y mae’r buddsoddiad hwn yn ei greu ar gyfer y gadwyn gyflenwi ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Gwelliant 10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod pwysigrwydd sylfaen sgiliau gwyrdd i ddatblygu cadwyn gyflenwi gadarn ac effeithiol yng Nghymru, er mwyn cefnogi twf gwyrdd yn economi ehangach Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r cyfleoedd academaidd a galwedigaethol sydd ar gael yng Nghymru i ddatblygu’r sgiliau i gefnogi swyddi gwyrdd. Gwelliant 11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu dangosyddion perfformiad penodol i fonitro cynnydd twf gwyrdd yng Nghymru, er enghraifft: 1. Diweddaru ffigurau Gwerth Ychwanegol Crynswth bob chwarter 2. Ystadegau busnes sy’n canolbwyntio ar gategorïau craidd yn Rhaglen Adnewyddu'r Economi 3. Ystadegau cyflogaeth yn y gweithle ar gyfer yr economi werdd. |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 22 Mai 2013